Gweithio’n Iawn gyda cherbydau a pheiriannau fferm

Danger moving vehicles sign on farm with tractor in background

Gweithio’n Iawn gyda cherbydau a pheiriannau fferm

Symud cerbyd yw achos mwyaf cyffredin marwolaethau ar ffermydd Prydain.

Ag 11,000 o anafiadau a amcangyfrifir bob blwyddyn, rydyn ni am wneud 2023 yn flwyddyn fwy diogel ar ffermydd Prydain drwy gydweithio er mwyn atal marwolaethau ac anafiadau.

P’un a ydych chi’n newydd i ffermio neu am ddiweddaru’ch cof, bydd dilyn y camau hyn yn helpu i’ch cadw chi a phawb ar y fferm yn ddiogel.

Gyrrwr diogel

  • Hyfforddiant

Mae cerbydau a pheiriannau ffermio yn gymhleth. Mae hyfforddiant yn hanfodol i helpu i gadw pawb yn ddiogel. Cyn defnyddio unrhyw gerbyd ar fferm, mae’n bwysig eich bod wedi cael eich hyfforddi i ddefnyddio’r cerbyd penodol hwnnw’n ddiogel.[blwch testun Cadw cofnod o ba gerbyd rydych chi wedi cael eich hyfforddi arno a phryd]

Handbrake being applied in tractor
  • Stopio’n ddiogel

Er mwyn atal anaf difrifol os yw’ch cerbyd yn symud oherwydd y tir neu’r graddiant, dilynwch y drefn stopio’n ddiogel syml cyn i chi fynd allan o neu oddi ar gerbyd:

  • Brêc llaw ymlaen
  • Geriau yn niwtral
  • Injan wedi’i ddiffodd
  • Allwedd wedi’i dynnu
  • Gwelededd

Pa bynnag gerbyd rydych chi’n ei ddefnyddio, yr allwedd i fod yn yrrwr diogel yw gwelededd. Sicrhewch fod drychau a ffenestri yn lân ac wrth symud cymrwch eiliad i ystyried ble mae eich mannau dall.

Cerbyd diogel

  • Cerbyd cywir ar gyfer y dasg

Gall cynllunio’r dasg yn iawn a chynnal a chadw rheolaidd sicrhau mai dyma’r cerbyd cywir i ymgymryd â’r gwaith yn ddiogel, a bod ganddo’r holl ddyfeisiau diogelwch fel gardiau yn eu lle ac yn gweithio’n gywir.

  • Cynnal a chadw

Dylid gwneud gwiriadau cerbydau sylfaenol bob tro y defnyddir cerbyd, ag unrhyw ddiffygion yn cael eu trwsio cyn eu defnyddio gan rywun sydd â’r sgiliau a’r arbenigedd i’w cwblhau’n ddiogel, gan sicrhau bod y pŵer i’r cerbyd a’r peiriannau i ffwrdd ac maent wedi’u hynysu.

Gallai tua hanner y marwolaethau sy’n ymwneud â symud cerbydau ar ffermydd Prydain fod wedi cael eu hatal gyda’r camau hyn:

Gwirio a chynnal brêcs yn rheolaidd

  • Gwisgo gwregys diogelwch lle gosodir un
  • Sicrhau bod drysau ynghlwm yn ddiogel a’u bod yn aros ar gau wrth symud
  • Gwirio bod drychau’n ddiogel a glân
    tractor mirror being cleaned

Cyn gweithio o dan unrhyw gerbydau neu beiriannau, cymerwch amser i wirio’r jaciau a’r standiau echeli wedi’u lleoli’n gywir, ac os ydych yn defnyddio offer a godir yn hydrolig fel trelars, y defnyddir propiau neu glocsiau rhag ofn methiant hydrolig, neu ymgripiad.

Fferm ddiogel

Ar y fferm, osgowch anafiadau difrifol drwy gadw cerbydau a phobl ar wahân. Mae arwyddion, goleuadau da a dillad amlygrwydd uchel i gyd yn helpu pobl i gael eu gweld ar y fferm.

Mae’n bwysig bod gweithwyr newydd yn cael gwybod am y gweithdrefnau diogelwch ar y fferm a phrosesau sydd ar waith i helpu i gadw’n ddiogel.

 

Further details on how to keep everyone on the farm safe